Hysbysiad pennu'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Tref Llandeilo
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022
1. Dyddiad cyhoeddi 20.06.22
2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy'n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol.
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
David Eve – Swyddog Cyllid – 07758 286484
Rhwng yr oriau o 5pm a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 4 Gorffennaf 2022
Ac yn dod i ben ar 29 Gorffennaf 2022
3. O 12 Medi 2022, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi'r Archwilydd Cyffredinol ynglyn â'r cyfrifon.
- yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o
wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o'r rhybudd ysgrifenedig hefyd i'r Cyngor.
Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy:
Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ
neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru