Ein Treftadaeth

Ychydig iawn o lefydd ym Mhrydain sy’n
cynnig lleoliad mor berffaith â Llandeilo. O ba bynnag
gyfeiriad y gwnewch chi deithio tuag at y dref, mae Llandeilo
yn codi i’ch croesawu filltiroedd i ffwrdd, y coed ffawydd
uchel fel pe baent yn eich denu i’r fan.
Mae’r dref yn sefyll ar bentir awdurdodol
ar lan gogleddol yr Afon Tywi. Mae’n dref farchnad ffyniannus,
ac mae’r dref yn gyfuniad deniadol o strydoedd Canoloesol,
Sioraidd ac Edwardaidd, ar ar hyd y strydoedd hyn gwelir llawer
o adeiladau hardd o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol.
Mae safon uchel rhan fawr o dirwedd Llandeilo wedi’i
gydnabod yn ffurfiol oherwydd ei bod wedi’i dynodi yn
Ardal Gadwraeth.
Gellir dadlau’n gryf bod yr ardal
o amgylch y dref yn enghraifft o’r amrywiaeth orau o
gefn gwlad hardd naturiol yng Nghymru. Mae’r golygfeydd
godidog a geir yn Nyffryn Tywi a’r dirwedd luniaidd
ym Mharc Dinefwr, sy’n cyfrannu gymaint at swyn a chymeriad
Llandeilo, yn cyferbynnu gyda’r bryniau yn yr ardaloedd
gwledig oddi amgylch.
Mae gan Landeilo dreftadaeth gymhleth, ac
mae Cyngor y Dref a’r Gymdeithas Gymunedol wedi comisiynu
arolwg llawn yn ddiweddar – “Arolwg
Treftadaeth” – gan Archaeoleg Cambria. Fe
ddatblygwyd llwybrau yn y dref, byrddau arddangos a ffyrdd
eraill o ddangos ac esbonio hanes y dref.

Enwir Llandeilo ar ôl un o Seintiau
enwocaf y Seintiau Celtaidd, Sant Teilo, a oedd yn byw yn
yr un cyfnod â Dewi Sant, nawddsant y Cymry. Yn y 6ed
ganrif sefydlodd anheddiad mynachaidd bychan ar safle’r
Eglwys bresennol. Gwelir Teilo yn aml iawn yn marchogaeth
hydd neu garw gwyn. Er iddo dreulio amser yn teithio, bu farw
yn Abaty Llandeilo Fawr. Yn ddiweddarach daeth un o lawysgrifau
harddaf y Dywysogaeth i’r anheddiad hwn – Llyfr
Efengyl Sant Teilo, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Efengyl
Lichfield a Llyfr Sant Chad.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth archaeolegol
diweddar yn dangos bod hanes Llandeilo yn mynd yn ôl
llawer iawn ym mhellach na Sant Teilo. Darganfuwyd olion dwy
Gaer Rufeinig o dan cae ym Mharc Dinefwr. Mae’r darganfyddiad
cyffrous hwn yn dynodi fod y Rhufeiniaid wedi bod yn amlwg
iawn yn yr ardal, a hynny yng nghyfnod y goresgyniad ac yn
amserau mwy sefydlog yn dilyn hynny. Y gobaith yw y bydd gwaith
cloddio yn y dyfodol yn gallu cyfrannu llawer tuag at yr hyn
yr ydym yn ei wybod am y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd Castell Dinefwr
yn un o gadarnleoedd Brenhinoedd Cymru a Thywysogion y Deheubarth
(sef yn fras ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phenfro).
Roedd y rhain yn cynnwys Rhodri Fawr, dyn diwylliangar oedd
yn hybu ysgolheictod a’r celfyddydau; Hywel Dda, y lluniwr
deddfau; a’r Arglwydd Rhys, a gynhaliodd yr Eisteddfod
gyntaf.
Dros y blynyddoedd mae’r dref wedi
tyfu, ac mae yna lawer o adeiladau Sioraidd hardd yno o hyd,
yn enwedig ym mhen uchaf y fynwent. O ganlyniad i’r
porthmyn a oedd yn symud gwartheg, defaid, moch a gwyddau
i’r marchnadoedd yn Llundain datblygwyd banciau ar hyd
eu llwybrau. “Capability Brown” wnaeth y gwaith
tirwedd ym Mharc Dinefwr, ar gyfer Arglwyddi Dinefwr yn ôl
y sôn, ac mae coed hardd Parc Penlan yn nod sy’n
rhwydd i’w gweld o’r de. Adeiladwyd y ffordd osgoi
gyntaf, “New Road” yn 1837 er mwyn caniatáu
traffig oedd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin i osgoi gorfod
mynd trwy ganol y dref. Disgrifiwyd y bont gerrig hir sy’n
croesi’r afon fel “y bont gerrig orau yng Nghymru”.
Tua’r un cyfnod, ailadeiladwyd Eglwys St Teilo i gynllun
Syr Giles Gilbert Scott, ac agorwyd llinell rheilffordd Llanelli-Llandeilo
yn 1857.
Mae Llandeilo yn parhau ddatblygu, ond mae
wedi aros o fewn y ffiniau naturiol sef yr afon a Pharc Dinefwr,
gan felly wneud Llandeilo yn lle bach, amrywiol a deniadol
i fyw a gweithio ynddo.

Cliciwch
i islwytho Archwiliad Treftadaeth o Landeilo a gyhoeddwyd
yn Mawrth 2004 mewn ffurf Adobe Acrobat (2.3Mb) (yn agor
mewn ffenest newydd)
Am ragor o wybodaeth am hanes a threftadaeth ein tref, edrychwch
ar www.llandeilofawr.net
(yn agor mewn ffenest newydd)
Mae gwefan eu hunain gan Eglwys
St Teilo lle gellir gweld nodiadau cynhwysfawr ar hanes
yr eglwys (yn agor mewn ffenest newydd)
Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cambria,
sydd a'u pencadlys yn Llandeilo, wybodaeth am yr ardal ar
eu gwefan, www.acadat.com
(yn agor mewn ffenest newydd)
Pen y Dudalen
|