Newyddion
Hwyl yn y Parc, Parc Penlan
19 Mehefin 2010 - Y Dydd Mewn Darluniau
Blog y Maer - Cyng Charlotte Leadbeater
14 Mai i 23 Awst 2009
(adnewyddwyd 3 Medi 2009)
Jas yn y Parc - Medi 19
2009
Am ychydig oriau yn gynnar gyda’r
nos ddydd Sadwrn 19 Medi, daeth dros 200 o bobl i fwynhau
swn y Memphis 7 Jazz Band yn amgylchedd prydferth Parc Penlan,
Llandeilo. Roedd y Maer yno i gyfarch pawb yn unigol a chytunodd
pawb fod y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac y byddai croeso
cynnes i fwy o gyngherddau. Rhaid diolch yn arbennig i’r
tîm cyfan a helpodd i drefnu’r digwyddiad.

Y Memphis 7 Jazz Band yn chwarae yn y bandstand
ym Mharc Penlan.
|

Mwynhau diwedd yr haul tra’n gwrando ar y
Memphis 7 Jazz Band.
|

Y Maer Charlotte Leadbeater a’i gwr Tim.
|
Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn

Mae Llandeilo drwodd i rownd derfynol Cystadleuaeth Pentref
y Flwyddyn Calor ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin
Cymru. Bydd beirniaid yn ymweld â Llandeilo yn gynnar
ym mis Gorffennaf i weld drostynt eu hunain pam ei fod yn
lle arbennig i fyw a gweithio. Mae’r Cynghorwyr Tref
Ros Bellamy a Fran Murphy yn edrych ymlaen at y cyfle i
dynnu sylw at eu cymuned. “Rydym wrth ein boddau i
gyrraedd cyn belled â hyn,” medden nhw, “gan
mai dyma’r tro cyntaf i Landeilo gystadlu yn y gystadleuaeth.
Mae’n lle rhyfeddol ag ysbryd cymuned arbennig ac
ansawdd bywyd ardderchog, felly fe fydd yn wych i Landeilo
gael cydnabyddiaeth genedlaethol.” Mae’r beirniaid
yn edrych ar bedwar categori - cymuned, busnes, cynaliadwyedd
a chyfathrebu, ac maen nhw eisiau gweld sut mae Llandeilo
wedi ymateb i unrhyw heriau trwy gydweithio yn y gymuned.
Mae Llandeilo yn cystadlu yn erbyn Llanwrtyd a Threfyclo
am y wobr ranbarthol o £2000 a’r cyfle i fynd
ymlaen i rownd derfynol Cymru gyfan. Wedi ei noddi gan Calor,
cefnogir y gystadleuaeth hefyd gan nifer o sefydliadau gan
gynnwys Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ac Un Llais Cymru.
Miri yn y Parc – Parc Penlan
20 Mehefin 2009
Dyfyniad gan y Cynghorydd Sir Ieuan Jones o gân yr
arferai plant ysgol ei chanu am brydferthwch Parc Penlan
a’r ardal:
‘Slowly the evening sun is setting
O'er the banks of Penlan Park
Showing all the land with beauty
O'er Llandeilo and Ffairfach’
Roedd hwn yn ddiwrnod allan arbennig yn
Llandeilo wrth i ni fwynhau’r baneri, samplu’r
nwyddau a rhyfeddu at ffenestri’r siopau a chymryd
rhan yn ein ‘Miri yn y Parc’, Noson Ganol Haf,
Mehefin 20, ac arhosodd y tywydd yn sych!!
Dechreuodd y digwyddiad hudolus hwn, a
oedd yn rhad ac am ddim, gydag adrodd storïau i blant
yng nghanol Llandeilo. Y storïwr oedd John Bilsborough
a eisteddodd yn y gadair adrodd storïau arbennig a
gafodd ei gwneud gan Jonathan Garrard. Wedi hynny, cafwyd
gorymdaith Fawr o Heol y Brenin dan arweiniad Cyhoeddwr
Llanymddyfri, Joe Beard a’i wraig Sandra, pwysigion
dewr y dref a phlant mewn gwisgoedd canoloesol anhygoel.
Fe wnaeth Guy Smith hefyd jyglo’n fedrus i ni cyn
ei weithdy sgiliau syrcas.

Storiwr
|

Dechrau’r Orymdaith
|
Roedd Band Arian Porth Tywyn yn chwythu’n
dda ac yn dod â safon arbennig i’r digwyddiad.
Daeth yr holl siopwyr allan i’n hannog a’n cefnogi
hefyd.
Agorwyd ‘Miri yn y Parc’ gan
Elinor Jones, y cyflwynydd adnabyddus ar S4C, ac adroddodd
rai dyfyniadau doniol dros ben am y parti cyntaf yn y parc
gan y diweddar Arglwydd Dinefwr.
Dyfarnodd y gwobrau am y gwisgoedd canoloesol
gorau - gwobr 1af, Coblynnod a Thylwyth Teg, ‘Bizzy
Bees’; 2il wobr, ‘Midsummer Night’s Dream’,
Guides a Brownies; 3ydd wobr, Ceffylau a Marchogwyr, Morgan
Williams a Llewellyn Davies.
Gwobr unigol - Ffion Davies a oedd yn
edrych yn hyfryd mewn gwimpl rhuddgoch a ffrog goch.
Enillwyd y gystadleuaeth ffenestr gan
In Stitches, sef siop sy’n cael ei chadw gan Ann Loynton
a Ailsa Proctor, a wnaeth waith arbennig fel arfer trwy
wau byddin o lygod, ynghyd â chastell. Reepicheep
yn ei ôl!

Yr Orymdaith
|

Gwobr Gwisg Ffansi
|
Ym Mharc Penlan roedd wal ddringo a gweithdy
sgiliau syrcas yn rhad ac am ddim. Roedd hefyd arddangosfa
ynglyn â 150 mlynedd o hanes y dref dan ofal Cyngor
Tref Llandeilo a pherfformiodd St Teilo Singers a Chôr
Saint Teilo yn hyfryd yn y Saesneg a’r Gymraeg dan
arweiniad Richard Whitehead ac Owain Gruffydd. Fe wnaeth
Band Samba Ysgol Gynradd Llandeilo wefreiddio’r gynulleidfa
a bu perfformiad bale aruchel gan Ysgol Bale Clasurol Moya
Vahey o’r Bont-faen. Dyma’r tro cyntaf i fale
gael ei berfformio yma yn y Parc.
Roedd reidiau ffair a theganau gwynt ar
gyfer pob oedran; person dweud ffortiwn yn dweud rwnau (digwyddiadau
pwysig iawn i’r dirprwy faer(!)) yn ogystal â
the hufen blasus yng ngofal Tenovus, hufen iâ a stondinau
er mwyn codi proffiliau Sefydliadau Dinesig.
Cododd y casgliad bwced ar gyfer elusennau’r
Maer, a oedd yng ngofal disgyblion Ysgol Tre-gib, dros £130.
Cododd y stondinau eraill rhwng £60
a £70 ar gyfer elusennau.

Band Samba
|

Cor Saint Teilo
|
Cafodd y digwyddiad parc hwn ei gefnogi
a’i noddi gan Gyngor Sir Gâr a Chyngor Tref
Llandeilo. Mae Maer Llandeilo Charlotte Leadbeater yn dymuno
diolch i Huw Parsons, Sian Evans a’u staff, y Cynghorwyr
Tref a’u staff am gydweithio i greu digwyddiad mor
gofiadwy. Dymuna ddiolch yn arbennig hefyd i Edward Thomas
a Peter Emms am fod yn Feistri'r Seremonïau ac i Elinor
am agor y digwyddiad!
Diolch hefyd i Ambiwlans Sant Ioan a’r
ddoli wedi’i llenwi ag aer(!), Nigel Williams am argraffu’r
posteri a’r taflenni, y Neuadd Ddinesig am y cadeiriau
a’r byrddau a’r person dweud ffortiwn; Captain
Pugwash o RLNI(!) ac Andrew Evans am y generadur.
Diolch i G Hughes am y lluniau hyn, a
gallwch weld mwy ar y wefan lle gallwch archebu copïau.
http://www.photoboxgallery.com/3003036

Bale
|

Cantorion Teilo
|

Gem
|

Gwisg Ffansi Rainbows
|
Cinio’r Maer
Daeth 115 o bobl i Ginio’r Maer yng Ngwesty’r
Cawdor gan gynnwys gwesteion adnabyddus, y siaradwr William
Wilkins CBE a’i wraig Lynne, y Cynghorydd Sir Tysul
Evans a’i Gymar Delyth Dunsford, y Maer Charlotte
Leadbeater a'i Chymar Tim ap Hywel, y cyd Gynghorydd a’r
Maer ymadawol Edward Thomas, Clerc y Dref Roger Phillips
a’i wraig Miriam, teulu, sef Demian, Lucy, Emily,
Rhiwallon, a Thomas, ffrindiau, sef Rheolwr Theatr y Grand
Gary Iles a’i wraig Mary, Nigel Lowson, Dirprwy Bennaeth
Ysgol Ramadeg Caerwrangon a’i wraig Gilly a Meiri
sefydliadau tref Llanymddyfri, Rhydaman a Glanaman.
Cafwyd datganiad hyfryd ar y delyn gan
Mary Evans, ein telynores o gôr Cantorion San Teilo,
wrth i ni dderbyn ein gwin pefriol cyn y pryd bwyd. Paratowyd
y blodau gan Pinc a Susan Morgan-Jones y blodau ac argraffwyd
y bwydlenni pinc hyfryd gan argraffwyr Nigel Thomas - ac
fe’u llenwyd yn fedrus iawn gan y Maer ymadawol y
Cyng Edward Thomas a’r Dirprwy Faer y Cyng Chris Parish.
Roedd awyrgylch hyfryd yn y cinio a thynnwyd
lluniau o’r Meiri blaenorol a theulu a ffrindiau’r
Maer newydd sef y Cyng Charlotte Leadbeater a’i gwr
Tim ap Hywel.
Cynigwyd llwncdestun i’r Dref, y
gwesteion, y cyd gynghorwyr, ac Ei Mawrhydi Y Frenhines,
gan Roger Phillips, Clerc y Dref, a’r Cynghorwyr Ieuan
Gwyn a Colin Jenkins.
Gwnaeth William Wilkins CBE araith arbennig gan ddweud ei
fod wedi ‘dod gartref’ i’w filltir sgwâr
a’i fod wrth ei fodd i gael Maer sydd hefyd yn artist.
Siaradodd am adfywiad Llandeilo, y Neuadd Ddinesig, diwylliant
Llandeilo, yr Eisteddfod, am ‘Ballet Russe Abertawe’,
mynd â bale ledled y wlad, y gwyliau Cerddoriaeth
a Blodau, a’r Synhwyrau. Canmolodd y Dref am godi
cymaint o arian ar gyfer Elusennau - £23,700 eleni
i Tenovus, a’r Cyngor Tref am eu gwaith caled a’r
hysbysfyrddau newydd ar hanes Llandeilo.
Diolchodd y maer yn wresog iddo a rhoddodd
ei haraith hi, gan ei longyfarch ar ei brosiect celfyddydau
byd-eang diweddaraf, sydd nawr yn ei bedwaredd flwyddyn,
sef Artes Mundi, yng Nghaerdydd.
Rhoddodd hefyd fanylion ein digwyddiad
mawr nesaf - ‘Miri yn y Parc’ Ddydd Sadwrn 20
Mehefin.
Darparodd staff a chogyddion Gwesty’r
Cawdor bryd o fwyd hyfryd i bawb, wedi ei weini’n
brydlon ac yn effeithlon. Mae’r maer yn mwynhau ei
dyletswyddau ac yn gobeithio gwasanaethu’r Dref a’i
Chyd Gynghorwyr hyd eithaf ei gallu. Hoffai ddiolch i bawb
am yr holl gardiau a negeseuon hyfryd.
Y Cyng Charlotte Leadbeater
Cymdeithas Y Dalar
Ar 22 Chwefror 2009 trefnodd Cymdeithas y Dalar arddangosfa
yn Neuadd Ddinesig Llandeilo o’r enw Rhandiroedd:
y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol. Ar ôl
areithiau gwadd gan gynrychiolwyr o’r Gymdeithas Genedlaethol
i Arddwyr Rhandiroedd a Garddwyr Hamdden, Ffermydd Dinesig
a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cafodd yr arddangosfa
ei hagor yn swyddogol gan Edward Thomas, Maer Llandeilo,
trwy dorri darn o dâp coch yn symbolaidd. Daeth llawer
o bobl i’r arddangosfa ac ymhlith yr ymwelwyr roedd
y tair ysgol gynradd leol. Bydd y Gymdeithas yn dechrau
gwaith cyn bo hir ar y rhandiroedd newydd yn Home Farm Dinefwr
ac mae’r Cyngor Tref yn teimlo’n sicr y bydd
y fenter yn llwyddiant mawr.

Y Maer Edward Thomas yn agor yr arddangosfa yn y Neuadd
Ddinesig
Medi 2008
Treialon Cwn Defaid y Byd ym Mharc Dinefwr
Roedd Treialon Cwn Defaid y Byd (www.worldsheepdogtrials.org/new/index.php),
a gynhaliwyd ym Mharc Dinefwr, yn llwyddiant mawr, gyda’r
tywydd yn gwella’n ddyddiol a miloedd o bobl yn mwynhau’r
achlysur.
Ar Nos Fercher wlyb iawn, trodd tyrfa fawr allan i gyfarch
yr Orymdaith Groeso, gyda band y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
(www.royalwelshband.com),
Siencyn yr afr, a gwaywyr ar gefn ceffylau yn arwain y cystadleuwyr
gyda’u cwn defaid.
Codwyd baneri’r holl wledydd ar Heol Rhosmaen, ac
anogwyd plant yr ysgolion lleol i baratoi baneri bach i’w
chwifio at yr orymdaith.
Darparodd Cyngor Tref Llandeilo Dderbyniad, yn cynnwys bwffe,
ar gyfer y cystadleuwyr yn y Neuadd Ddinesig. Croesawodd
y Maer y gwesteion, a chyflwynodd blatiau dathliadol y Dref
i gynrychiolydd o bob gwlad.
Roedd yr holl gystadleuwyr a’r trefnwyr wrth eu boddau
gyda’r croeso cynnes a gawsant i Landeilo. Fe wnaeth
llawer o’r ymwelwyr fwynhau’r Ffair Wledig a
Bwyd, gyda digonedd o fwyd da a nwyddau o ansawdd uchel
ar werth gan fusnesau lleol.
Yn goron ar y cyfan, tîm Cymru enillodd y gystadleuaeth
gyffredinol, a daeth Aled Owen yn Bencampwr y Byd am y 3
blynedd nesaf.
Pen y Dudalen |