Cyngor Tref Llandeilo Fawr Town Council
Barcud
 

 

 

Y Barcud ar ben adeilad y Cyngor

Peppercorn Siop Gegin

Toast Ffasiwn Menywod

Pysgotwr yn y Tywi. Llun gan Ken Day.

Gwybodaeth Leol

O dan y bont garreg  - hawlfraint y llun gan Ken Day

Mae Llandeilo wedi bod yn ganolfan i’r gymuned amaethyddol ers mwy na mil o flynyddoedd, ac mae pobl yn dal i heidio yma o’r ardaloedd oddi amgylch. Efallai y byddwch o’r farn fod Llandeilo ychydig yn hen ffasiwn. Ond y gwirionedd yw ein bod yn falch o’r ffaith honno.

Yn un peth, mae pobl yn sefyll i siarad â’i gilydd ar y stryd. Efallai ei bod yn rhyfedd i’r rheini ohonoch sy’n gyfarwydd â byw yn y dinasoedd, ond buan iawn y gwnewch chi gyfarwyddo â phobl yn dweud “Helo” neu “Shwmae” a chymryd amser am sgwrs yn hytrach na rhuthro i bob man.


Siopa

Un peth arall anarferol am Landeilo yw mai’r perchnogion sy’n rhedeg y rhan fwyaf o’r siopau. Mae’r gwasanaeth yn gyfeillgar ac mae staff yn gwybod eu gwaith. Mae’r hyn a geir yn Llandeilo yn wahanol iawn i’r parciau manwerthu sydd y tu allan i drefi a siopau’r stryd fawr yn y dinasoedd.

Mae’r siopau arbenigol yn Llandeilo yn gadarn iawn o ran y traddodiad o gynnig ansawdd a gwasanaeth i gwsmeriaid. Anaml iawn y cewch chi wasanaeth sydd â chymaint o wybodaeth o’r cynnyrch y mae’n ei werthu y dyddiau hyn, ond dyma beth sydd yn gwneud siopa yn brofiad mor arbennig yn Llandeilo.

Ychydig iawn o drefi o’r un maint â Llandeilo all gynnig y fath amrywiaeth o siopau arbenigol sy’n cynnwys ffasiwn i ferched, celfi cegin, gwasanaeth gwnïo, gemwaith, orielau celf, blodau, celfi a gosodion, henebion – yn ogystal â llefydd sy’n gwerthu pob math o fwydydd a diodydd o gigyddion a phobyddion traddodiadol i delicatessen Eidalaidd. Er mwyn ei wneud yn brofiad llawn i ymwelwyr dydd a phenwythnos, mae yna ystod eang o fwytai, gwestai, tafarndai, caffis a siopau prydau parod ar gael. Mae’r llefydd hyn yn cynnig amrywiaeth gwych o fwydydd lleol a rhyngwladol. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn rhoi tro ar fwyta bwydydd arbenigol yr ardal megis sewin y Tywi a Chig Eidion Cymreig.

Yn ogystal â’r siopau sydd yn Llandeilo, mae yna fanciau’r stryd fawr (gyda thwll yn y wal), cymdeithasau adeiladu, teithio, eiddo, cyllid ac asiantaethau yswiriant. Bob dydd Gwener cynhelir marchnad awyr agored, a thua unwaith y mis cynhelir Ffair ac arwerthiant Henebion. Mae’r farchnad da byw yn cael ei chynnal ar Ddydd Sadwrn diwethaf y mis yn Ffair-fach, dim ond i chi gerdded dros yr hen bont garreg.

Ar fore Dydd Gwener o 8 yb i 12.45yp mae Marchnad Gwledig yn cael eu chynnal yn y Neuadd Ddinesig yn Heol Cilgant. Yno gellir prynu cacenau, pateiod a jamiau wedi eu pobi adref a hefyd ffrwythiau, llysiau, llysieuon a phlanhigion wedi eu tyfu yn leol a gwaith gwau a chrefftiau lleol. Mae te a choffi ffres i'w cael hefyd. Brysiwch yno!

 

Bywyd Nos

Mae gan Llandeilo ddewis gwych o dafarndai cyfeillgar yn cynnig cwrw, bwyd a sgwrs ddwyieithog gwych. Mae rhai ohonynt yn cynnig cerddoriaeth fyw o bob math – jas, roc, gwerin a “bluegrass”, hyd yn oed bandiau mawr – ac mae i’w weld ar ei orau yn ystod Gwyliau Llandeilo.

Mae’r Wyl Cerdd a Blodau ar ddechrau’r haf yn llwyddianus iawn, gydag artistiaid mawr rhyngwladol, er engraifft, The Kings Singers, Jacqui Dankworth a Jamie Cullum. Cynigir perfformiadau trwy gydol y flwyddyn gan gorau lleol a grwpiau drama.

 

Chwaraeon

Roedd Clwb Rygbi Llandeilo yn un o aelodau sylfaenol Undeb Rygbi Cymru yn ôl yn 1880 ac mae’r clwb yn dal i ffynnu hyd heddiw. Cynhelir y gemau cartref yng Nghae William, lle gwelir ein “Stadiwm Mileniwm” ni – stand, bar ac ystafelloedd newid newydd. Mae’r tîm criced yn chwarae yma yn ystod misoedd yr haf, ac mae gan y dref hefyd ei dim pêl-droed sydd â nifer dda o gefnogwyr.

Lleolir y clwb sboncen ar Ffordd Caerfyrddin, wrth ymyl yr Orsaf Dân – mae yna 2 gwrt sboncen a man ffitrwydd. Hefyd wrth ei ymyl mae lawnt fowlio a phafiliwn ym Mharc Le Conquet, ynghyd a chyrtiau tennis, man chwarae i blant a maes hamdden. Yn adeilad yr hen Athrofa Llenyddol ar Stryd Rhosmaen mae yna fyrddau snwcer a billiards maint llawn.

Er 1893 mae Cymdeithas Bysgota Llandeilo wedi bod yn cynnig pysgota o safon uchel, sy’n denu pysgotwyr o ar draws y byd. Pan mae’r amodau yn iawn, ni ellir cael gwell pysgota na’r pysgota eog ar y Tywi ac hyd yn oed ar ddyddiau o haf pan mae’r dwr yn isel mae’r brithyll yn cynnig pysgota da.

I orffen mae yna gyfleoedd lawer o ran cerdded, dringo, gwylio adar, marchogaeth, beicio mynydd ac ogofa yn yr ardal, gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dim ond hanner awr i ffwrdd yn y car y mae’r arfordir.

 

Gefeillio

Wrth i chi ddynesu tuag at Landeilo ar hyd yr A40, anodd iawn yw peidio â sylwi ar y bwi morwrol sy’n nodi’r fynedfa i‘r dref o gyfeiriad y gogledd ddwyrain. Rhodd yw’r bwi gan bobl Le Conquet, sef trefol arfordirol ym mhen gorllewinol Llydaw yn Ffrainc. Gefeilliwyd y trefi yn 1979, gyda’r grwp cyntaf yn mynd o Landeilo i Le Conquet yn 1980. Daeth y grwp cyntaf o Lydaw yn 1981 i arwyddo’r Cytundeb Cyfeillgarwch, a gallwch ei weld yn y Gymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Saesneg, yng nghyntedd y Llyfrgell Gyhoeddus. Ers hynny mae yna drip cyfnewid wedi digwydd bob blwyddyn, un ffordd neu’r llall. Os y byddwch yn ymweld â Le Conquet rhywdro, chwiliwch am y blwch ffôn coch llachar sy’n sefyll yn “Place de Llandeilo” – rhodd oddi wrthym ni.

Edrychwch ar wefan swyddogol Le Conquet (yn agor mewn ffenest newydd)

Mae gan Landeilo gefelldref hyn na hyn ar ochr arall y byd. Sefydlwyd yr anheddiad o’r enw Llandilo yn Awstralia (nodwch yr hen ffordd o sillafu) gan Gymry wnaeth fudo i New South Wales yn 1886 ac mae’r cysylltiadau gyda’i “frawd mawr” yng Nghymru yn parhau o hyd.

 


Clybiau ac Elusennau

Mae pobl Llandeilo yn hael iawn ac mae ganddynt ymdeimlad cryf o berthyn. Mae yna grwpiau gweithgar sydd â diddordeb mewn celf a bywyd gwyllt, a phwyllgorau codi arian i elusennau megis gryd cymalau, canser, gyrwyr anabl, ac ati. Mae eglwysi a chapeli Cristnogol yn cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym wedi ceisio cynnwys cymaint o fudiadau â phosibl yma, ond ni allwn rhoi manylion cyswllt oni bai ein bod wedi cael caniatâd.

Rhestr o Glybiau ac Elusennau

 

Ysgolion a gweithgareddau allgyrsiol

Mae yna ddwy ysgol gynradd sirol yn nhref Llandeilo ei hunan yn cynnig addysg gwych i blant rhwng 3 ac 11 oed, ac mae’r ysgol uwchradd ddwyieithog i blant 11-18 oed milltir i ffwrdd yn Ffair-fach. Mae yna feithrinfa breifat yn cynnig gofal plant rhan amser neu lawn amser, grwpiau mam a’i phlentyn a chlwb i blant ar ôl ysgol. Mae gweithgareddau ieuenctid yn cynnwys Clwb Ieuenctid Llandeilo, Clwb Ffermwyr Ifanc, Geidiaid a chynigir adrannau ieuenctid yn y rhan fwyaf o’r clybiau chwaraeon. Yn ystod haf 2003 cynhyrchwyd fideo gan Glwb Ieuenctid Llandeilo ynglyn â’r dref, rhywfath o “whodunit” yn cyfeirio at lawer o’r mannau harddaf yn y dref, a hynny trwy gymorth Cwmni Teledu lleol a grant gan Ymddiriedolaeth y Tywysog.

 


Gwasanaethau Cyhoeddus

Lleolir y brif lyfrgell oddi ar y prif faes parcio yn Heol y Cilgant, ac yn y llyfrgell ceir llyfrau cyfeirio a rhai i’w benthyg, yn cynnwys CDs, DVDs a fideos i’w rhentu, yn ogystal â defnydd yn rhad ac am ddim o’r cyfrifiaduron a mynediad i’w We, llungopïo a gwybodaeth am holl wasanaethau’r cyngor sir, a chofnodion y Cyngor Tref a dogfennau eraill. Lleolir y Ganolfan Addysg Gymunedol y tu cefn i’r ysgolion cynradd (ceir mynediad yno ar hyd Heol-y-Garreg Las) ac mae’n cynnig dosbarthiadau dydd a nos i oedolion mewn celf a chrefftau, ieithoedd, sgiliau cyfrifiadurol, ffitrwydd ac amrediad o bynciau eraill. Cynigir cyfleusterau cymdeithasol a chinio poeth i’r henoed yn y Ganolfan Ddydd ar Heol y Cilgant bob diwrnod o’r wythnos.

Ym Meddygfa Teilo, ceir meddygfa mawr gyda nyrsys, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau arbenigol ar gyfer gwneud profion gwaed, clefyd y siwgr a thrin traed. Mae yna sawl deintyddfa preifat ac un deintyddfa GIG yn y dref.
Mae’r Orsaf Dân a’r Orsaf Ambiwlans wrth ymyl ei gilydd ar Ffordd Caerfyrddin, gyda Gorsaf yr Heddlu gyferbyn.

 

Rhifau Cyswllt Defnyddiol

Floodline

0845 988 1188 (24 hrs)

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

08708 506506 (24 hrs)

SWALEC Argyfyngau a Diffyg Pwer

0800 052 0400 (24 hrs)

Dwr Cymru

0800 052 0130

Argyfyngau NwyTransco Gas

0800 111 999 (24 hrs)

Cyngor Sir Caerfyrddin

01267 234 567

Heddlu Dyfed Powys Argyfyngau

999

Heddlu Dyfed Powys Cyngor Cyffredinol

0845 3302000

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

999

Gwasanaeth Tân

999




Pen y Dudalen