Cyngor
Tref Llandeilo Fawr
Mae’r Cyngor Tref yn gorff etholedig
sy’n gyfrifol am lywodraeth leol o fewn tref Llandeilo.
Mae’n cynrychioli diddordebau’r dref o ran darparu
gwasanaethau lleol gan gydlynu gyda chyrff eraill sy’n
ymwneud â llywodraeth leol – Cyngor
Sir Gaerfyrddin, y
Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth
y D.G. (yn agored mewn ffenestri newydd).
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Mae’r Cyngor Tref yn cynrychioli
barn pobl Llandeilo ym mhob mater gyda diddordeb arbennig
mewn:
-
cynllunio lleol – sy’n cynnwys unrhyw
beth o fastiau ffoniau symudol i ddatblygiadau newydd
Map
o Ardal Gadwraeth Llandeilo mewn ffurf PDF (yn
agored mewn ffenestr newydd)
-
materion cludiant – problemau traffig, parcio
ceir
-
datblygu economaidd – cefnogi siopau a busnesau
-
materion amgylcheddol – megis cwn yn baeddu,
goleuadau stryd, llwybrau troed
-
prosiectau cymunedol – megis ein gwyliau a dathliadau
-
hamdden a’r celfyddydau
Y mae Cyngor y Dref yn derbyn ei nawdd yn bennaf trwy bresept
y Cyngor Sir – y lwfans blynyddol sy’n gosod
y gyllideb ar gyfer darparu gwasanaethau. Gall y Cyngor
Tref godi arian ychwanegol trwy fenthyciadau neu grantiau
ar gyfer prosiectau arbennig – megis Cynllun Gwella’r
Dref.
Cyngor y Dref sydd â’r prif gyfrifoldeb dros:
-
gynnal a chadw llwybrau troed
-
cynnal a chadw rhai goleuadau stryd
-
darparu goleuadau Nadolig
Cyngor y Dref sy’n berchen ar y Neuadd Sirol –
a brynwyd gyda benthyciad ac sy’n cael ei roi ar les
i Archaeoleg Cambria.
Bob blwyddyn mae’r Cyngor Tref yn rhoi grantiau
i fudiadau megis:
-
Eglwys St Teilo i gynorthwyo gyda’r llif oleuadau
a chynnal a chadw’r fynwent
-
gwyliau lleol
-
ysgolion a grwpiau ieuenctid
-
elusennau a chlybiau lleol
-
unrhyw fudiad lleol neu genedlaethol arall sy’n
gweithio er lles trigolion y dref
Pedair gwaith y flwyddyn mae’r Cyngor
yn ystyried ceisiadau am nawdd, o dan Adran 137 o’r
Ddeddf Llywodraeth Leol. Yr uchafswm y gallwn ei wario yw
£5 am bob etholwr, ym mhob blwyddyn ariannol. Mae
croeso i unrhyw unigolyn neu fudiad sy’n ymwneud â
phrosiect sy’n manteisio pobl Llandeilo wneud cais
– rydym yn annog mwy i wneud defnydd o’r grant.
Dylid gwneud ceisiadau ysgrifenedig i Glerc y Dref, ac fe
ddylai gynnwys lle’n briodol mantolen o’r incwm
a’r gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol ac fe ddylai
ddisgrifio’r manteision yn glir.
Taflen
Ffeithiau Cyngor y Dref mewn ffurf PDF (yn agored mewn
ffenestr newydd)
Yr hyn nad ydym yn ei wneud
Rhennir y cyfrifoldebau dros wasanaethau
rhwng y gwahanol gynghorau. Cyngor Sir Gaerfyrddin sy’n
gyfrifol am :
-
Addysg
-
Gwasanaethau cymdeithasol
-
Tai
-
Ceisiadau cynllunio
-
Cludiant cyhoeddus
-
Priffyrdd
-
Casglu gwastraff ac ailgylchu
-
Yr Heddlu
-
a llawer iawn mwy o bethau eraill
Os oes angen cymorth arnoch ynglyn â’r uchod,
dylech ffonio Cyngor
Sir Gaerfyrddin ar 01267 234567.
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad
Enghreifftiol)(Cymru) 2008
Mae Cyngor Tref Llandeilo Fawr wedi mabwysiadu’r
Model Côd
Ymddygiad (yn agored mewn ffenestr newydd) ac mae pob
aelod wedi arwyddo Ymrwymiadau statudol er mwyn cydymffurfio
gyda darpariaethau’r Côd. Rydym yn cadw llyfr
Datganiadau o Ddiddordeb y gall aelodau ei arwyddo pryd
bynnag y mae diddordeb sy’n berthnasol iddynt yn cael
ei drafod.
Deddf Datgelu Data 2000
Mabwysiadwyd “Model Cynllun Cyhoeddiadau
ar gyfer Cynghorau Lleol” gan Gyngor Tref Llandeilo
Fawr a gynhyrchwyd yn unol ag adran 20 o Ddeddf
Datgelu Data 2000 (yn agored mewn ffenestr newydd) a’i
gofrestru mewn Datganiad i gyhoeddi gwybodaeth yn unol â’r
cynllun hwnnw.
Cynllun
Cyhoeddi Enghriefftiol (yn agored mewn ffenestr newydd)
Yr
wybodaeth sydd ar gael gan Gyngor Tref Llandeilo Fawr o
dan y cynllun cyhoeddi enghreifftiol (yn agored mewn
ffenestr newydd)
Polisi Iaith Gymraeg
Yn 2004 cytunodd Cyngor Tref Llandeilo
Fawr polisi
i gynyddu’r elfen o ddwyieithrwydd yng ngwaith y cyngor
gyda'r Bwrdd Iaith Gymraeg (yn agored mewn ffenestr newydd).
Rheoliadau Sefydlog
Rheoliadau
Sefydlog mewn ffurf PDF
(yn agored mewn ffenestr newydd).
Polisi Cydraddoldeb
Polisi
Cydraddoldeb y Cyngor mewn ffurf PDF (yn agored mewn
ffenestr newydd).
Polisi Amgylcheddol
Polisi
Amgylcheddol mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr
newydd).
Rheoliadau Mewnol
Rheoliadau
Mewnol mewn ffurf PDF (Saesneg yn unig - yn agored mewn
ffenestr newydd).
Rheoliadau Ariannol
Rheoliadau
Ariannol mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd).
Adroddiad Blynyddol Llwybrau Troed
Mae Mr DI Davies, Swyddog Technegol y Cyngor
wedi ysgrifennu adroddiad ar statws y llwybrau troed yn
Llandeilo. Gellir ei ddarllen
yma mewn ffurf Adobe Acrobat (Saesneg yn unig - yn agored
mewn ffenestr newydd).
Y Cynghorwyr a’r
Staff
Cyfarfodydd y Cyngor a Hysbysiadau
Pen y Dudalen
|