Digwyddiadau yn y Neuadd Ddinesig
LLOGI BWRDD I’R SÊL
CIST CAR
Ffoniwch Joan Gower 01550 777579 Cost bwrdd £8.00
LLOGI’R NEUADD
Ffoniwch 01558 822001 ac os nad oes unrhyw un yno i gymryd
eich galwad gadewch neges, byddwn yn gwneud ein gorau i
gysylltu â chi o fewn 24 awr gyda manylion prisiau,
cyfleusterau a’r dyddiadau y mae’r neuadd ar
gael.
CYFRANIAD GWIRFODDOLWYR
Ffoniwch y Cadeirydd Liz Godber 01558 823868 am ragor o
wybodaeth.
CYFEILLION Y NEUADD DDINESIG
Ffoniwch Gareth Gower 01550 777579 am ragor o wybodaeth
ac i ddysgu am fanteision bod yn Gyfaill.
Diolch i bawb sy’n llogi ac yn mynychu
digwyddiadau yn y Neuadd Ddinesig ac am eich cefnogaeth
i’ch Neuadd Gymunedol chi, sy’n “gweithio
gyda’r gymuned er lles y gymuned” gan barhau
i wneud hynny nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Ymddiriedolwyr
yn croesawu awgrymiadau ar gyfer cyngherddau / darlithoedd
/ sgyrsiau / disgos / dawnsfeydd / gweithgareddau chwaraeon
a hamdden, dosbarthiadau a digwyddiadau eraill yr hoffai
pobl eu gweld yn digwydd yn y Neuadd Ddinesig.
Rydym yn bwriadu rhedeg cyfres o ddosbarthiadau
/ clybiau ac yn croesawu unrhyw awgrymiadau. Mae’r
rhestr hyd yn hyn yn cynnwys Cadw’n Heini i rai dros
50, Garddio Sylfaenol, Ffrangeg i Blant, Dawnsio ‘Ballroom’,
Bowlio Mat Byr, Tennis Bwrdd, Tai Chi, Cylch Crefft, Clwb
Coginio/Rysetiau a Dawns adeg Te’r Prynhawn, ffoniwch
naill ai 01558 822001 gyda’ch syniadau, neu ysgrifennwch
at Liz Godber, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr. Mae’r
Ymddiriedolaeth yn hynod falch bod un o’n Hymddiriedolwyr,
Charlotte Leadbeater, yn Faer Llandeilo eleni a dymunwn
bob llwyddiant iddi yn ei blwyddyn yn y swydd.