Croeso
i Landeilo

Mae Maer, Cynghorwyr a thrigolion Llandeilo yn estyn croeso
cynnes iawn i chi i’n tref farchnad hanesyddol.
Llandeilo
Tref farchnad fechan, ond ffyniannus yn
Sir Gaerfyrddin yw Llandeilo, a leolir ar ymylon Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog. Mae’n fan poblogaidd i bobl sydd
hefyd yn gweithio mewn mannau eraill ymgartrefu ac mae hefyd
yn ardal sy’n denu llawer o dwristiaid ac ymwelwyr.
Mae o fewn cyrraedd cyfleus i’r mynyddoedd a’r
arfordir, llinell
rheilffordd Calon Cymru a thraffordd yr M4.
Mae tua 2000 o drigolion yn byw yn y gymuned a darperir
cyfleusterau da ar eu cyfer yn cynnwys siopau bach cyfeillgar
yn ogystal â gwasanaethau gwych gan y ganolfan iechyd,
ysgolion cynradd ac uwchradd, llyfrgell, eglwysi, capeli,
gwasanaeth tân, ambiwlans a gorsafoedd yr heddlu ac,
wrth gwrs y Cyngor Tref.
Dyma wefan swyddogol Cyngor Tref Llandeilo Fawr a dyma mewn
gwirionedd yw’r hysbysfwrdd ar gyfer materion busnes
y Cyngor. Fodd bynnag y bwriad yw cynnwys gwybodaeth am
hanes y dref, ein treftadaeth a mudiadau eraill lleol. Ein
gobaith ni yw y bydd yn fan cychwyn da i ymwelwyr a phobl
sy’n meddwl am symud i’r ardal, yn ogystal ag
ar gyfer pobl leol sydd am wybodaeth ynglyn ag unrhyw ddigwyddiadau.
10 peth sy’n rhaid i chi eu gwneud pan yn ymweld
â Llandeilo:

-
Cerdded trwy Warchodfa Natur Coed
y Castell i Gastell hynafol Dinefwr, lle eistedda ar
glogwyn lle gwelir golygfeydd godidog ar hyd dyffryn
yr afon Tywi.
-
Mynd i siopa am ddillad, rhoddion a
nwyddau o ansawdd yn ein siopau ac orielau bach cain
ac unigryw – dim o’ch siopau stryd fawr
yma!
-
Ymweld â Pharc Dinefwr a Thy’r
Drenewydd, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol, gyda’i wartheg gwyn, llyn a pharc
ceirw.
-
Yfed coffi yn y bore neu de prynhawn
yng Ngwesty’r Cawdor neu pam na ewch i gaffi -
mae digon o rai dymunol yn y dre.
-
Chwilio am fargen ymysg yr henebion
a phethau i’w casglu yn y Farchnad Henebion neu
yn yr arwerthiannau misol.
-
Bwyta bwydydd arbenigol lleol megis
cig oen Cymru neu eog yn un o’r tafarndai neu
fwytai, mae digon ohonynt.
-
Mynd i fandstand Parc Penlan i weld
y golygfeydd hardd dros doeon y dref.
-
Cerdded i lawr i Bont y Brenin, pont
droed siglo dros yr afon, a mynd am dro hamddenol ar
hyd y dolydd lle cewch gyfle i weld y crychydd, hwyaid,
gwenoliaid neu hyd yn oed glas y dorlan neu ddyfrgwn
os ydych yn ddigon lwcus.
-
Mwynhau’r dewis da o gerddoriaeth fyw yn y tafarndai
a lleoliadau lleol, yn arbennig felly adeg yr wyl.
-
Neu mynd am dro o amgylch y dre, gan brofi’r
awyrgylch hamddenol a mwynhau’r adeiladau Sioraidd
hardd.

Map
yn dangos lleoliad Llandeilo (yn agor mewn ffenest newydd)
Map
o Strydoedd Llandeilo (yn agor mewn ffenest newydd)
Pen y dudalen |