Blog y Maer
Y Cyng Charlotte Leadbeater
14 Mai i 29 Gorffennaf 2009
15/06/09
Cerdd i Dref Llandeilo
Lollypop houses upon a green hill
Narrow streets winding, ancient and still
Churchyard holding names once known
Now lost, dreaming among the yew trees grown
Chattering friends drink coffee and tea
Baritas is open- its time for a spree!
Glad rags and bikers, Llandeilo greets all
Spilling out on the streets from our Hotel Cawdor
Llandeilo is ‘posh’ Its shops are desired
They come up from Swansea ready and fired
To parade in the streets and walk in the Park
Habits die hard it’s all a great lark.
Children in pushchairs eating ice creams
Old ladies on pavements expounding Welsh themes
Teenagers in uniform eating their chips
Up from Tregib, shirts hanging out from their hips
Adults with attitude, greet friends and meet
‘Was that Rhys Ifans I saw down the street?’
Its hustle and bustle and get here to there
A concert tonight, a band on the square.
Eat in the Angel or Salvador Deli
Coffee in Ollies, my brain is like jelly.
At last the residents make their way home
The shops are all closed, the visitors gone
Quiet of the evening falls over the town
The traffic has stilled, we’re all winding down.
CL 16/05/09
14/05/09
Aeth Tim a finnau i seremoni urddo’r Maer yn
Llanymddyfri – digwyddiad sy’n siwr o
aros yn y cof – gyda’r Faeres Helene Lovell
yn ei chlogyn coch, erminog, a’i chymar, Dirk
Lovell, dau ddeiliad byrllysg a Chrïwr y Dref,
Joe Beard. Ar ôl swper hyfryd yng Ngwesty’r
Castell, cafwyd llawer o areithiau ac englyn i gloi.
Cafodd pawb amser ardderchog.
17/05/09
Es i a Tim i’r Gwasanaeth Dinesig yn Eglwys
Llandingad, Llanymddyfri, gyda chinio bwffe ar ei
ôl. Cefais gyfarfod difyr gyda’r Maerau
a’r Cynghorwyr eraill, a ‘the prynhawn’
hyfryd. Daeth llawer o bobl i’r digwyddiad.
27/05/09
Cynhaliais fy nghyfarfod Cyngor Llawn cyntaf!! Gorffennodd
yn brydlon.
29/05/09
Cafodd ein swyddog technegol, Des Davies a finnau
gyfarfod gyda chynrychiolwyr y Cyngor Sir a’r
Arolygydd ynglyn ag enwebiad Baner Werdd Parc Penlan.
Mae llawer o fentrau’n digwydd yno. Rydym yn
byw mewn gobaith, ac fe ddangoson ni luniau iddynt
o’r ‘Parti yn y Parc’ y llynedd.
29/05/09
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol yn neuadd y Sir am
6.45.
Aeth Tim a finnau i seremoni Urddo Maer Llandeilo
– roeddwn dan deimlad pan roddodd Edward y gadwyn
o gwmpas fy ngwddf.
Ond roedd cael y gadwyn oddi wrtho’n dipyn o
dasg! Mae lluniau a disgrifiad ar y Dudalen Newyddion.
Cawsom noson hyfryd yng Ngwesty’r Cawdor gyda’n
teulu a’n gwesteion ynghyd â gwyr pwysig
a sefydliadau’r dref. Roedd y pryd yn ardderchog.
30/05/09
Es i a Ros Bellamy seremoni urddo’r Maer yng
Nghwmaman, a oedd yn anffurfiol a dymunol iawn. Peint
hyfryd a sgyrsiau yn y Clwb Rygbi wedyn. Roedd gan
Karl Morgan a finnau gysylltiadau â Chaint,
yr ysgol, carchar Maidstone a chymdeithas operatig
Cranbrook – Cadwch lygad yma am fwy o wybodaeth.
1/06/09
Mynychais agoriad CREU yng Ngholeg y Drindod, y Cyfleuster
Celfyddydau newydd sy’n cael ei gydlynu gan
Liane Davies. Cwrddais â hen ffrindiau yno,
ynghyd â Maerau newydd San Clêr a Phenfro.
Roedd yn braf cwrdd â’r Cynghorydd Sir
Tysul Evans a Delyth unwaith eto. Cefais fy nhywys
o gwmpas yr adeilad – gyda digon o gawodydd
yn yr ystafelloedd newid o fewn y cylch, ond nid oedd
yr offer hedfan yn eu lle eto.
Cawsom noson hyfryd, yn enwedig oherwydd bod Oriel
Stryd y Brenin yn un o bartneriaid y digwyddiad gyda’r
nos, a gwnaethpwyd ymdrech fawr gan gydlynydd y cyfan,
Ann Goodfellow. Y ffotograffydd oedd Ric Bower, sef
enillydd enwog cystadleuaeth ffotograffiaeth Schweppes
(National Portrait Gallery). Dymunwn yn dda i bob
un ohonynt.
2/06/09 am
Cafodd y Cynghorydd Roy Davies a finnau gyfarfod da
gyda swyddog y Sir, Howel Davies, ynglyn â Gwybodaeth
i Dwristiaid yn Llandeilo.
2/06/09 pm
Cyfarfod yn Neuadd y Sir am drefniadau terfynol ‘Miri
yn y Parc’. Taflenni, posteri ac ati.
3/06/09
Parhad y Cyfarfod Blynyddol. Cafodd y dirprwy faer
Chris Parish ei dderbyn, trwy dyngu llw.
5/06/09
Agorais Ginio Gwerinwr Clwb Rotari Llandeilo gyda
Chris Parish, fy Nirprwy, ac yn ystod y cinio hyfryd,
bûm yn siarad gyda’r Llywydd sydd ar fin
gadael y swydd, Ian Turner. Roedd menywod y Cylch
Mewnol wedi paratoi gwledd heb ei hail, ac roedd yn
braf gweld torf dda wedi ymgynnull.
5/06/09
Gyda’r nos, agorodd Tim a finnau arddangosfa
‘Tirluniau Breuddwydiol y Deheubarth’
i Ken Day, y ffotograffydd yn Amgueddfa ardderchog
Abergwili. Arddangosfa ffotograffiaeth ragorol, gyda
golygfeydd o Gastell Dinefwr, aber Talacharn a Chastell
Carreg Cennen.
9/06/09
Cyfarfod Pwyllgor ‘Miri yn y Parc’ yn
Neuadd y Sir.
10/06/09
Mynychais y cyfarfodydd Cynllunio a Chyllid. Etholwyd
Cadeiryddion a Dirprwyon.
11/06/09
Aeth Tim a finnau i noson goffi ‘Cylch Cyfeillion’
Dyffryn Aman. Cafwyd araith ddiddorol iawn am y baban
cyntaf a aned yn Ysbyty Glanaman o dan y Gwasanaeth
Iechyd Gwladol. Cafodd ei henwi’n Aneura ar
ôl Aneurin Bevan.
Hefyd, clywsom am y bath newydd, o’r radd flaenaf,
a brynwyd gan y ‘Cyfeillion’ ar gyfer
y cleifion. Maent yn griw gweithgar iawn, a’r
ysbyty bob amser dan fygythiad, a braf oedd cwrdd
eto â chynghorwyr a dirprwy faerau.
19/6/09
Mynychodd y Faeres a’r Cynghorydd Dawn Wallace
Sioe Ffasiwn Llanymddyfri yn y Clwb Rygbi, a drefnwyd
gan y Faeres, Helene Lovell.
20/6/09
Cynhaliwyd digwyddiad y Faeres a Chyngor y Dref, sef
‘Miri yn y Parc’ ym Mharc Penlan. Mynychodd
pob cynghorydd.
21/6/09
Mynychodd y Faeres a’i chymar barti’r
Rhandiroedd ym mhrosiect Rhandiroedd Home Farm yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
26/6/09
Aeth y Faeres a’i Chymar i Ginio Clwb Rotari
Llandeilo, lle trosglwyddwyd yr awenau oddi wrth Ian
Turner i’r Llywydd newydd, Ken Griffiths, ac
oddi wrth Nansi Walford yn y Cylch Menywod i Janete
Williams
27/6/09
Mynychodd y Faeres, Y Cynghorydd Richard Wallace,
a’r Cynghorydd Dawn Wallace Ffair Haf Cylch
Cyfeillion Awel Tawe (cartref nyrsio).
3/7/09
Mynychodd y Dirprwy Faer a Richard Wallace y cinio
ym Mharc Dinefwr a’r Castell, yng nghwmni Iwan
Huws, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
yng Nghymru, i ddathlu 12 prosiect â nawdd Ewropeaidd.
Roedd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, yn bresennol.
5/7/09
Mynychodd y Dirprwy Faer Chris Parish ac Edward Thomas
Wasanaeth Dinesig Cyngor Tref Rhydaman yn Eglwys yr
Holl Saint, Rhydaman ar gyfer y Faeres a’r Cynghorydd
Irena Hopkins a’i Chymar Tony Hopkins.
9/7/09
Bu’r Cynghorydd Ros Bellamy a Fran Murphy yn
tywys beirniaid Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor.
Ymwelsant â Sefydliadau Dinesig ac unigolion.
9/7/09
Mynychodd y Cynghorydd Edward Thomas a’r Cynghorydd
Colin Jenkins seremoni sefydlu’r ficer newydd,
Michael Sadler, yn Eglwys San Teilo, Llandeilo.
11/7/09
Mynychodd yr holl Gynghorwyr a’r Dirprwy Faer
gyngerdd cyntaf Gwyl Gerddoriaeth a Blodau Llandeilo
Fawr.
12/7/09
Mynychodd y Dirprwy Faer a’r Cynghorydd Edward
Thomas y Gwasanaeth Dinesig yng Nghapel Nazareth Pont-iets
ar gyfer y Cynghorydd Tysul Evans, Cadeirydd Cyngor
Sir Caerfyrddin a’i Gymar, Mrs Delyth Dunsford.
Cafwyd te prynhawn yn y Baltic Inn, Ponthenri.
18/7/09
Mynychodd y Faeres a’i Chymar gyngerdd olaf
yr wyl gan Gôr Ysgol Gerdd Ceredigion gyda’r
Llywydd, yr Arglwydd Dinefwr cyfredol a’r Cynghorydd
Julia Jones. Yma, yng nghyngerdd olaf Gwyl Gerddoriaeth
a Blodau Llandeilo, cyflwynodd y Faeres dlws i enillwyr
yr arddangosfa ffenestr orau, sef Craig a Huw o siop
drin gwallt Style yn Llandeilo.
28/07/2009
Bu’n gyfnod prysur iawn, gyda llawer o fentrau
newydd ac agoriadau. Mae’r Cynghorwyr wedi bod
yn brysur gydag adroddiadau, ac yn hynod o weithgar
gyda digwyddiadau megis Miri yn y Parc, Gwobr y Faner
Werdd (a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf), yr Wyl Gerddoriaeth
a Blodau, cyflwyno cais Pentref y Flwyddyn (Canmoliaeth
Uchel) a Chynllun Ardal Uchaf Llandeilo. Hoffwn nodi
fy niolch i’m cyd-gynghorwyr a’u staff
am eu holl waith caled.
29/7/09
Mynychodd y Faeres a’r Cynghorwyr gyfarfod pwysig
o’r Cyngor Sir yn Neuadd y Sir i ystyried cynlluniau
ar gyfer Strategaeth Cyngor Sir Gâr ar gyfer
Ardal Ogleddol Llandeilo.
|